Paul Flynn
Wrth i arfbais y Frenhines gael ei osod mewn ffenest yn y Senedd, mae un AS o Gymru wedi galw am sylw hefyd i’r Siartwyr a phrotestwyr radical eraill.

Yn ôl Aelod Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, does dim teyrnged i’r bobol a weithredodd i osod sylfeini democratiaeth ac mae angen cywiro hynny.

“Bydd arfbais frenhinol newydd yn cael ei ychwanegu’r wythnos hon at y cannoedd ym Mhalas Westminster,” meddai ar ei wefan. “Mae’n dal i fod yn anodd ffeindio dim am y Siartwyr, merthyron Tolpuddle a Peterloo neu’r suffragettes. Nhw a luniodd ein democratiaeth gref.”

Mae’r ffenest liw yn cael ei dadorchuddio heddiw yn rhan o ddathliadau Jiwbilî 60 y Frenhines ond mewn dadl am y digwyddiadau, fe ddywedodd Paul Flynn bod angen creu teyrnged i’r protestwyr hefyd.