Mae dwy adran o Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru wedi cael eu canmol am wella’u gwasanaethau ar ôl dau adroddiad damniol.

Yn ôl adroddiad newydd, mae adrannau Gwent a De Cymru o CPS Cymru-Wales wedi cyrraedd rhai o’r targedau a osodwyd iddyn nhw ac wedi gwella mewn meysydd eraill.

Ond mae problemau o hyd tros restrau aros am achosion mewn llysoedd ynadon yn y De a dyw Gwent ddim wedi gwella o gwbl gydag un elfen o gysylltu â dioddefwyr.

Gwent – wedi gweithredu

Roedd yr adroddiad gwreiddiol am y gwasanaeth yng Ngwent yn 2010 wedi dweud bod rhaid mynd yn ôl at “y pethau sylfaenol” ar ôl beirniadaeth arbennig am ddulliau’r adran o drin achosion sensitif, gan gynnwys achosion hiliaeth a throseddau rhywiol.

Bellach, yn ôl arolygwyr, mae’r adran wedi cwrdd â thri o’r prif dargedau ac wedi gweithredu ynglŷn ag 11 arall.

De Cymru – problemau tros oedi

Yn Ne Cymru, mae pedwar targed wedi eu cyrraedd a chynnydd wedi ei wneud ym mhob maes arall, ond cyfyngedig yw’r llwyddiant i leihau problemau oedi mewn llysoedd ynadon.

“Y sialens bellach yw cynnal y cynnydd er mwyn cynnig gwasanaeth mwy effeithiol fyth i’r cymunedau yr ’yn ni’n eu gwasanethu,” meddai Prif Erlynydd CPS Cymru-Wales, Jim Brisbane.