Mae cyn-filwyr Prydeinig sy’n dweud eu bod wedi dioddef salwch ar ôl dod i gysylltiad ag ymbelydredd yn ystod profion arfau niwclear yn y Pasiffig yn y 1950au, wedi colli’r hawl i wneud cais am iawndal.

Fe benderfynodd y Goruchaf Lys heddiw i wrthod caniatau’r ceisiadau am iawndal gan y mwyafrif o’r cyn-filwyr.

Ond mae cyfreithwyr y cyn-filwyr a’u teuluoedd wedi mynnu y byddan nhw’n parhau â’r frwydr gyfreithiol ac wedi galw ar weinidogion i sefydlu cynllun iawndal.

Mae mwy na 1,000 o gyn-filwyr wedi bod yn brwydro ers dwy flynedd i gael yr hawl i wneud cais am iawndal.

Ond mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwrthod honiadau’r cyn-filwyr ac yn gwadu esgeulustod.

Dywedodd y barnwyr yn y Goruchaf Lys eu bod yn cydymdeimlo â’r cyn-filwyr ond nad oedd digon o dystiolaeth i brofi cysylltiad rhwng eu salwch a’r profion niwclear gan ychwanegu bod nifer o’r ceisiadau wedi cael eu gwneud yn rhy hwyr.