Pebai darllenwyr Golwg360 yn gyfrifol am ddewis arweinydd newydd Plaid Cymru, fe fyddai enillydd clir – y ddysgwraig o’r Cymoedd, Leanne Wood.
Gyda diwrnod i fynd cyn y cyhoeddiad swyddogol, fe enillodd hi’r ras ym mhôl piniwn answyddogol Golwg 360, a hynny gyda 60.85% o’r pleidleisiau.
AC Ceredigion Elin Jones, sy’n dod yn ail yn y ras, gyda 24.86% o bleidlesisiau, a Dafydd Elis-Thomas yn y trydydd safle, gyda 14.29%.
Fe bleidleisiodd 539 o ddarllenwyr yn ein pôl piniwn answyddogol, a ddechreuodd ar 27 Chwefror – gan gau ddydd Sul diwethaf, 12 Mawrth.
Dyma’r union sgôr:
Leanne Wood 328
Elin Jones 134
Dafydd Elis-Thomas 77
Mae’r canlyniadau’n adlewyrchu’r heip sydd wedi bod o gwmpas ymgyrch Leanne Wood o’r dechrau, gyda phresenoldeb amlwg iawn ei chefnogwyr ar-lein, a gyda pheiriant cysylltiadau cyhoeddus cryf iawn tu ôl iddi, a hynny o sawl cyfeiriad.
Ond gan y 7,863 o aelodau cofrestredig ym Mhlaid Cymru y bydd y bleidlais go iawn – doedd dim rhaid bod yn aelod o’r Blaid i gymryd rhan yn y pôl piniwn a oedd heb ei bwyso na’i drefnu i adlewyrchu natur y boblogaeth.
Yr aelodau sy’n cyfri
Fe lwyddodd ymgyrch aelodaeth diweddar Plaid Cymru i ddenu 1,500 o aelodau newydd i’r blaid erbyn diwedd mis Ionawr eleni, ac mae’r cynnydd hwnnw yn dangos tueddiadau daearyddol pendant iawn.
Yng Ngheredigion, ym mhatsh Elin Jones, y gwelwyd y nifer fwyaf o aelodau newydd yn ymuno â’r Blaid yn ystod yr ymgyrch, gyda phatsh Dafydd Elis Thomas, yn Nwyfor Meirionnydd, yn dynn wrth ei sodlau.
Mae’r ddau’n cynrychioli ardaloedd traddodiadol Gymraeg yn y Gorllewin, sef tir cadarnleoedd hanesyddol Plaid Cymru.
Mae Leanne Wood yn cynrychioli ardal fwy anodd i’r Blaid yn draddodiadol, gyda’r Cymoedd, a’r rhanbarth y mae hi’n ei gynrychioli, Canol De Cymru, yn gadarnleoedd Llafur.
Dilynwch Blog Byw Golwg 360 o’r cyhoeddiad i lawr yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.