Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi mai Lowri Rhys Davies sydd wedi ei phenodi yn Olygydd Rhaglenni Cyffredinol Radio Cymru.

Bydd Lowri Rhys Davies yn gyfrifol am gomisiynu a goruchwylio holl raglenni Radio Cymru, sy’n darlledu hyd at ugain awr o raglenni bob dydd.

Mae  Lowri Rhys Davies wedi bod yn gynhyrchydd gyda BBC Radio Cymru ers 2003, ac yn is-olygydd ar gyfnodau gwahanol ers 2008. Bydd hi’n cydweithio’n agos gyda Phennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Siân Gwynedd.

Profiad

“Mae gan Lowri flynyddoedd lawer o brofiad o gynhyrchu rhaglenni radio ac o arwain timau cynhyrchu” meddai Siân Gwynedd.

“Mae  ganddi adnabyddiaeth dda o Radio Cymru fel gorsaf a rydw i’n siwr y bydd hi’n cyflawni gofynion y swydd newydd hon ac yn gosod sylfeini cadarn i’r orsaf yn y dyfodol.”

Dywedodd Lowri Rhys Davies fod Radio Cymru’n bwysig iddi’n bersonol.

“Dyma’r orsaf y cefais i fy magu yn gwrando ar ei rhaglenni, a dwi wedi cael y fraint o weithio fel cynhyrchydd yma ers bron i ddegawd.

“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr rwan i arwain y timau sy’n gweithio ym Mangor a Chaerdydd drwy gyfnod o newid a sicrhau fod Radio Cymru’n parhau i gynhyrchu rhaglenni cryf a chreadigol sy’n berthnasol i’n cynulleidfa.”