Ar Ddiwrnod Dim Ysmygu mae elusen ganser Tenovus yn galw am brysuro’r broses o greu Cymru ddi-fwg.

“Hoffwn ni weld Cymru ddi-fwg ac rydym ni’n gweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad i hwyluso hyn. Ni fydd Cymru ddi-fwg yn digwydd dros nos gan fod 23% o oedolion Cymru’n smygu, felly mae angen edrych ar atal pobl rhag ysmygu yn y lle cyntaf,” dywedodd llefarydd ar ran yr elusen wrth Golwg360.

“Mae yna ddigon o ddeddfwriaeth mewn lle ac mae angen gofyn beth yw’r cam nesaf nawr wrth ddelio gyda smygu,” meddai.

‘Nod uchelgeisiol’

Mae Tenovus heddiw’n helpu Llywodraeth Cymru i lansio  ymgyrch Cychwyn Iach Cymru, sydd yn annog rhieni a gofalwyr i ymddwyn yn gyfrifol a pheidio â smygu mewn ceir pan fo plant yn bresennol

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell: “Un diwrnod yn unig yw Diwrnod Dim Ysmygu o dynnu sylw at ein hymgyrchoedd a’n strategaethau, a’r help a gynigir i bobl sydd am roi’r gorau i smygu.

“Ond mae Llywodraeth Cymru wrthi’n gweithio’n barhaus i gyflawni’r nod o leihau nifer y bobl sy’n smygu i 16% erbyn 2020. Ein gweledigaeth yn y pen draw yw creu cymdeithas ddi-fwg yng Nghymru a chael gwared yn llwyr ar y niwed sy’n cael ei wneud gan dybaco.

“Nod uchelgeisiol yw hwn, ond mae Awstralia a Califfornia wedi llwyddo i sicrhau lleihad tebyg yn eu lefelau smygu. Mae Cynllun Gweithredu cyntaf Cymru ar Reoli Tybaco yn gam pwysig ymlaen yn yr ymgyrch hon, a sefydlwyd Bwrdd Cyflawni i fwrw ymlaen â’r gwaith.”

Mae gwaharddiad ar ysmygu yn cael ei ehangu heddiw i  gynnwys ysbytai a safleoedd chwech o’r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru.

Roedd anniddigrwydd ymhlith nifer o gleifion ac ymwelwyr fod gwaharddiad smygu tu mewn ysbytai ond bod pobl yn rhydd i smygu wrth fynedfeydd.