PC David Rathband gyda'i wraig Kate
Ni fydd gwraig weddw’r PC David Rathband yn mynychu gwasanaeth coffa er cof amdano yfory.
Mi laddodd y plisman ei hun yn ddiweddar.
Roedd wedi ei ddallu am byth pan saethodd y llofrudd Raoul Moat ef.
Er na fydd hi’n mynd i’r gwasanaeth yfory, mae Kath Rathband wedi cadarnhau y bydd hi’n mynychu angladd ei gŵr.
Mae dau wasanaeth ar wahân wedi eu trefnu ar gyfer gwahanol aelodau o deulu PC Rathband, a oedd wedi torri ei galon am bod ei briodas wedi chwalu.