Alun Ffred Jones
Wrth feirniadu Llywodraeth Cymru am fethu rhoi’r un geiniog ychwanegol i gefnogi eu Strategaeth Iaith, mae Alun Ffred Jones wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg y byddai Plaid Cymru mewn grym wedi canfod £10 miliwn ychwanegol.

 “Mi oedden ni ym Mhlaid Cymru yn ein maniffesto wedi dweud y bydden ni’n rhoi adnoddau ychwanegol i mewn, achos fel arall byddai’n anodd iawn gweld be’ gellid ei gyflawni,” meddai’r cyn-Weinidog Treftadaeth.

Byddai’r arian yn cael ei wario ar fentrau i hybu plant a phobol ifanc i siarad yr iaith yn gymdeithasol, meddai.

Tra’n gweld gwerth yn y Strategaeth Iaith fel dogfen, mae Alun Ffred Jones yn siomedig nad oes arian  ar gael i’w roi ar waith.

“Ar wahân i’r geiriau neis, be’ maen nhw’n ei wneud?”

Yn Strategaeth y Gymraeg 2012-2017 Iaith fyw:iaith byw mae Leighton Andrews, y Gweinidog â chyfrifoldeb am y Gymraeg, yn gosod y nod canlynol:

  • Rhaid i ni sicrhau bod gwasanaethau a gweithgareddau i blant a phobol ifanc ar gael yn y Gymraeg. Mae angen mwy o wasanaethau wyneb yn wyneb drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mwy am hyn yng nghylchgrawn Golwg.