Mae un ym mhob pedwar wedi gorfod defnyddio eu harbedion i brynu bwyd a nwyddau anhepgor, yn ôl arolwg newydd.

Mae’r adroddiad gan grŵp cwsmeriaid Which? hefyd yn dweud bod un ym mhob pump wedi gorfod mynd i ddyled er mwyn prynu pethau hanfodol o ddydd i ddydd.

Mae 36% o’r rheini a holwyd bellach yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, o’i gymharu â 16% yn 2006.

Roedd llai na hanner (43%) yn dweud eu bod nhw’n dod i ben ar eu hincwm presennol.

Holodd Which? 2,094 o bobol yn y Deyrnas Unedig ym mis Tachwedd 2011.

Dywedodd y cwmni fod y rhan fwyaf o’r rheini a holwyd wedi newid eu harferion prynu o ganlyniad i’r dirwasgiad, gan gymharu prisiau siopau bwyd, prynu nwyddau ail-law, neu newid cwmni tanwydd.

Roedd 38% hefyd wedi penderfynu cymdeithasu gartref yn hytrach na mynd i’r dafarn, yn ôl yr adroddiad.

Yn ogystal â hynny roedd llai yn hapus â’i bywydau yn gyffredinol – 61% o’i gymharu â 77% pan gynhaliwyd yr arolwg diweddaraf o’i fath gan Which? yn 2007.

Roedd un mewn tri yn dweud eu bod nhw’n pryderu ynglŷn â beth a ddaw yn 2012.