Caeredin
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu cydweithio â’r SNP er mwyn datganoli rhagor o rymoedd i Senedd yr Alban.

Yn ei araith wrth gloi cynhadledd wanwyn y blaid heddiw fe fydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban, Willie Rennie, yn addo y bydd ei blaid yn “sicrhau newid” os yw’r Alban yn pleidleisio yn erbyn annibyniaeth.

Fe fydd yn cyfeirio at sylwadau diweddar gan y Prif Weinidog, David Cameron, a chyn-Ganghellor y Blaid Lafur, Alistair Darling, o blaid rhagor o ddatganoli.

“Mae hyn yn dangos fod cytundeb gwleidyddol fod angen rhagor o rymoedd ar yr Alban,” meddai.

Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cydweithio â’r SNP, ar ôl pleidlais ‘na’, i sicrhau “fod Senedd yr Alban yn gryfach,” meddai.

“Yn wahanol i’r pleidiau eraill, rydyn ni wedi bod eisiau i’r Alban ei reoli ei hun ers 100 o flynyddoedd,” meddai.

“Fe ddylai’r Alban gael y grym i redeg ei hun ond hefyd y gallu i rannu’r enillion a’r peryglon â gweddill teulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig.

“Mae yn fwy a mwy o alw am newid ledled Prydain.”