Premier Inn, sy'n rhan o gwmni Whitbread
Mae cwmni Whitbread, sy’n berchen gwestai Premier Inn a siopau coffi Costa, i greu 10,000 o swyddi dros y tair blynedd nesaf.
Mae’r grŵp, sydd hefyd yn berchen bwytai Beefeater a Brewers Fayre, wedi creu 2,500 o swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn bwriadu cyflogi 10,000 o staff yn y DU ac Iwerddon erbyn dechrau 2015.
Mae’n bwriadu ehangu Premier Inn a Costa, sydd wedi ychwanegu 158 o siopau coffi yn y DU i 1,375 dros y flwyddyn ddiwethaf.
Cafodd y cynlluniau i ehangu eu cyhoeddi er gwaethaf gostyngiad o 0.9% yng ngwerthiant Premier Inn yn yr 11 wythnos hyd at 16 Chwefror.
Roedd gwerthiant Costa i fyny 24.4%.