Costa Allegra
Mae llong bleser, sy’n cael ei rhedeg gan yr un cwmni â’r  Costa Concordia a suddodd ger yr Eidal, wedi cael ei thynnu i’r lan heddiw ar ôl i dân ddechrau ar ei bwrdd.

Roedd mwy na 30 o Brydeinwyr ymhlith y 636 o deithwyr a 413 o griw’r llong Costa Allegra oedd wedi colli pŵer ar ôl i’r tân ddechrau yn ystafell y generadur.

Roedd y llong, sy’n cael ei redeg gan Costa Cruises, yn mynd gyda’r llif yng Nghefnfor India nes i gychod tynnu gyrraedd i’w thynnu i’r porthladd.