Ar drothwy cychwyn ‘Pythefnos Masnach Deg’
 mae Ysgrifennydd Materion Allanol llywodraeth yr Alban wedi dweud ei bod yn berffaith bosib y caiff yr Alban ei dynodi yn ‘genedl Masnach Deg “ yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Fiona Hyslop bod 62 o drefi ar hyd a lled y wlad bellach wedi ennill statws Masnach Deg neu wedi sefydlu pwyllgorau gwaith sy’n anelu at wneud hynny.

Mae’r 6 dinas ac 14 allan o 32 o gynghorau yr Alban hefyd eisoes wedi ennill y statws a dim ond 4 awdurdod lleol arall sydd eu hangen er mwyn i’r Alban fod yn un o genhedloedd Masnach Deg cyntaf  y byd.

“Mae llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i godi proffil a hybu yr agenda Masnach Deg yn yr Alban ac rydw i’n hyderus y byddan ni’n llwyddo i gael ein galw’n genedl Masnach Deg yn ddiweddarach eleni,” meddai’r Ysgrifennydd.