Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi dweud y bydd yn cynnig rhagor o rymoedd i’r Alban pe baen nhw’n cefnu ar annibyniaeth.
Daeth y cynnig yn ystod araith yng Nghaeredin, oriau yn unig cyn iddo gwrdd â Phrif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, er mwyn trafod y ffordd ymlaen.
Yn ystod yr araith amddiffynnodd hanes yr undeb 300 mlynedd rhwng yr Alban a Lloegr.
“Nid y sefyllfa bresennol yw diwedd y daith i ddatganoli,” meddai.
“Ar ôl y refferendwm ar annibyniaeth, rydw i’n fodlon ystyried a fyddai modd gwella’r setliad datganoli.
“Mae hynny’n golygu ystyried a fyddai yn bosib datganoli grymoedd pellach.
“Ond rhaid ystyried hynny ar ôl y refferendwm, pan mae’r Alban wedi dod i benderfyniad ynglŷn ag aros yn y Deyrnas Unedig.
“Mae angen i’r Alban ateb y cwestiwn unwaith ac am byth a dod a’r ansicrwydd i ben – aniscrwydd a allai wneud niwed i ddyfodol y wlad.
Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi dweud ei fod eisiau cynnal y refferendwm annibyniaeth yn 2014.
Mae wedi datgan eisoes ei fod o blaid cynnwys ail gwestiwn ar y papur pleidleisio yn holi a fyddai yn well gan bobol ddatganoli rhagor o rymoedd.
Serch hynn mae David Cameron wedi mynnu y dylid cynnig dau ddewis yn unig ac nad oes gan Senedd yr Alban yr awdurdod i gynnal y refferendwm heb ganiatâd San Steffan.