Mae Ceidwadwyr Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddod o hyd i’r arian er mwyn sefydlu gwasanaeth awyr o Gaerdydd i Efrog Newydd.

Mae llefarydd yr wrthblaid ar drafnidiaeth, yr AC Byron Davies, wedi ysgrifennu at y gweinidog yn gofyn beth yw’r cynlluniau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Dywedodd y byddai yn gwneud llawer mwy o les economaidd i Gymru na’r gwasanaeth o dde i ogledd Cymru, ac yn costio llai i’w gynnal.

Daw’r alwad yn dilyn cyhoeddi gwerthusiad academaidd o’r darpar wasanaeth, a gyhoeddwyd yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth cyn y flwyddyn newydd.

Mae’r ddogfen ac ysgrifenwyr ym mis Awst 2007 yn awgrymu y byddai cysylltiad o’r fath yn ychwanegu miliwn o bunnoedd at economi Cymru bob blwyddyn.

Mae hefyd yn honni y byddai yn costio £580,000 y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth.

“Nid yw honiadau’r Llywodraeth eu bod nhw’n parhau i ystyried gwasanaethau awyr newydd o Gaerdydd yn ddigon da,” meddai Byron Davies.

“Mae’n hen bryd gweithredu ar fater sydd wedi bod yn segur ers blynyddoedd.

“Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd yn 2007 a’i gasgliadau yn gwbl eglur. Mae angen i’r llywodraeth weithredu ar hynny.

“Mae’r Llywodraeth bellach yn gwario miliwn o bunnoedd ar wasanaeth awyr o ogledd i dde Cymru bob blwyddyn.

“Mae’r adroddiad yn awgrymu y byddai gwasanaeth awyr o Efrog Newydd i Gaerdydd yn costio llai, ond fe fyddai’r hwb economaidd yn enfawr.

“Rhaid i’r gweinidog ystyried hynny’n ofalus iawn.”