Terfysg Llundain
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi dweud bod angen i’r heddlu gyfathrebu’n well â’r cyhoedd er mwyn ceisio osgoi gwrthdaro.

Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi canllawiau newydd i’r heddlu heddiw, er mwyn ceisio osgoi sefyllfa debyg i derfysgoedd Llundain ym mis Awst y llynedd.

Yn ôl y Comisiwn, mae’n rhaid targedu’r “bwlch gwybodaeth” mawr fu rhwng yr hyn yr oedd yr heddlu yn ei wybod, a’r hyn oedd y cyhoedd a’r cyfryngau’n ei wybod cyn ac yn ystod y terfysgoedd yn Awst 2011.

“Dylai hyn ddim digwydd eto,” meddai Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn, Deborah Glass, heddiw.

Dywedodd ei bod yn gobeithio y byddai’r canllawiau yn rhoi diwedd ar y “syniad fod yr heddlu’n cael eu cadw’n dawel.”

‘Diwedd ar y myth’

Mae’r canllawiau newydd yn ymateb i’r feirniadaeth a fu yn sgil saethu Mark Duggan, a’r terfysg a ddilynodd hynny.

Cafodd y bachgen 29 oed ei saethu gan dîm arfog o Scotland Yard fis Awst y llynedd. Arweiniodd hynny at wrthdystiad mawr y tu allan i swyddfa heddlu Tottenham, a ddatblygodd yn derfysg treisgar.

Mae nifer o sefydliadau wedi gwneud argymhellion ynglŷn â’r ffordd y dylai systemau cyfathrebu’r Comisiwn gael eu gwella mewn amgylchiadau o’r fath, lle mae yna berygl y gallai tensiwn cymunedol arwain at anrhefn gymdeithasol.

Dywedodd Deborah Glass heddiw y byddai’r Comisiwn “yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaeth heddlu i addysgu a hysbysu swyddogion o bob rheng ynglŷn â’r canllawiau, fel bod y myth fod yr heddlu’n cael eu cadw’n dawel yn cael ei gladdu unwaith ac am byth.”