Fe fydd David Cameron yn dadlau o blaid cadw’r Deyrnas Unedig yn gyflawn heddiw, oriau cyn cyfarfod allweddol â Phrif Weinidog yr Alban.
Fe fydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn cwrdd ag Alex Salmond er mwyn trafod refferendwm ar annibyniaeth i’r wlad.
Daw’r cyfarfod ar ôl i Brif Weinidog yr Alban drafod ei gynlluniau i gynnal y bleidlais ar annibyniaeth ag Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore, ddechrau’r wythnos.
Ond ychydig oriau cyn y cyfarfod fe fydd David Cameron yn traddodi araith yng Nghaeredin gan ddadlau o blaid cadw’r Deyrnas Unedig yn gyflawn.
“Mae’r frwydr bellach wedi dechrau er mwyn cadw rhywbeth sydd wir o werth: sef y Deyrnas Unedig,” meddai nodiadau ei araith.
“Rydw i’n bwriadu brwydro â fy holl enaid er mwyn cadw’r Deyrnas Unedig yn gyflawn. Nid polisi neu strategaeth yw hyn – rydw i’n credu ynddo â fy mhen, fy nghalon a fy enaid.
“Mae ein cartref ni dan fygythiad ac mae angen i bawb sy’n pryderu am hynny ei ddatgan yn glir.
“Fe fydd yn bosib dadlau am ansicrwydd dibyniaeth ar olew, problemau â dyled a’r system fancio fawr. Ond nid dyna’r pwynt.
“Fe fydd yr ymgyrch o blaid cadw’r Deyrnas Unedig yn un cyfan gwbl gadarnhaol. Rydyn ni’n well â’n gilydd.”
Fe fydd yn ychwanegu bod yr Alban yn “gryfach, saffach, cyfoethocach a thecach” yn rhan o’r Deyrnas Unedig.
“Gyda’n gilydd mae gennym ni lais uwch o lawer yn y byd, mae gennym ni sedd barhaol ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, mae pobol yn gwrando ar ein barn ar Nato ac yn Ewrop, ac mae gennym ni ddylanwad ar ein cynghreiriaid ledled y byd,” meddai.
“Rydyn ni’n saffach hefyd, â’r bedwaredd gyllideb amddiffyn fwyaf yn y byd, a hynny mewn byd sy’n mynd yn fwy a mwy peryglus. Mae ein gelynion yn ein hofni ni a’n cyfeillion yn ein hedmygu.
“Rydyn ni’n gyfoethocach. Mae poblogaeth yr Alban o bum miliwn yn rhan o economi o 60 miliwn, y seithfed economi fwyaf ar y blaned ac un o rymoedd masnachol mwyaf y byd.”
‘Cynnydd’
Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog, Alex Salmond, ei fod yn bwysig cwrdd er mwyn trafod dyfodol cyfansoddiadol y wlad.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwrdd â’r Prif Weinidog. Ef sy’n penderfynu ar bolisi cyfansoddiadol Llywodraeth San Steffan felly mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i drafod y materion yma gydag ef, yn ogystal ag Ysgrifennydd yr Alban,” meddai.
Mae Alex Salmond eisoes wedi dweud ei fod yn bwriadu cynnal refferendwm yn hydref 2014 – ond mae Llywodraeth San Steffan yn mynnu nad oes ganddyn nhw’r awdurdod er mwyn gwneud hynny.
Ar ôl cwrdd ag Ysgrifennydd yr Alban ddydd Llun dywedodd Alex Salmond eu bod nhw wedi gwneud “rhywfaint o gynnydd”.