Mae’r Llywodraeth wedi lansio adolygiad o daliadau bonws yn y sector cyhoeddus yn dilyn y feirniadaeth sydd wedi bod am daliadau i gyrff fel y Royal Bank of Scotland.

Mae prif ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander a Gweinidog Swyddfa’r Cabinet Francis Maude wedi ysgrifennu at bob adran y Llywodraeth yn galw arnyn nhw i adolygu taliadau bonws.

Bwriad yr adolygiad yw sicrhau mai dim ond perfformiad “ardderchog” fydd yn cael ei gydnabod, ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod hyd at chwarter swyddogion yn gymwys ar gyfer y taliadau yn awtomatig.