Milly Dowler
Mae llofrudd y ferch ysgol Milly Dowler wedi gwneud cais i apelio yn erbyn ei ddyfarniad.

Mae disgwyl i gyfreithwyr Levi Bellfield, 43 oed, wneud cais yn y Llys Apel yn Llundain heddiw.

Fe fydd panel o dri o feirniaid yn gwrando ar y cais.

Cafodd Bellfield ei garcharu am oes ym mis Mehefin 2011 yn yr Old Bailey ar ôl ei gael yn euog o gipio a lladd Milly Dowler, 13 oed trao roedd hi’n cerdded adre o’r ysgol yn Walton-on-Thames, Surrey yn 2002.