Y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews
Mae peth o’r ‘panic moesol’ am safonau addysg yng Nghymru yn lladd trafodaeth a syniadau newydd yn hytrach na gwella pethau, meddai arbenigwr yn y maes.
Mae hynny’n cynnwys ymateb brys Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews i adroddiad diweddar gan y corff rhyngwladol PISA.
Nid methiant mewn arholiadau academaidd fel TGAU yw’r broblem fawr, meddai’r Athro Gareth Rees, ond y diffyg cyfle i bobol ifanc ddilyn cyrsiau ymarferol, galwedigaethol.
Mae hynny yn ei dro yn cael effaith waeth ar bobol ifanc o gefndiroedd llai breintiedig, meddai mewn erthygl i wefan y Sefydliad Materion Cymreig.
Mae angen edrych yn agored ar ffeithiau, yn ôl yr Athro o Brifysgol Caerdydd a rhan o’r ateb yw cynlluniau llawn dychymyg i ddatblygu cyrsiau gwaith.
Cam-ddeall
Roedd yn awgrymu fod gormod o bwyslais a cham-ddeall ar gymariaethau rhyngwladol heb eu deal yn iawn – er enghraifft tabl rhyngwladol PISA a chymhariaeth rhwng canlyniaidau TGAU Cymru a Lloegr.
- Dim ond yn ddiweddar y mae llawer o ysgolion Cymru wedi ymuno gyda chynllun PISA, meddai, ac roedd yr arholiadau hynny’n mesur pethau gwahanol i’r hyn sy’n cael ei bwysleisio gan gyrsiau TGAU.
- Roedd yr ystadegau am ganlyniadau TGAU yn cynnwys cyrsiau gwaith – llwyddiant Lloegr yn y rheiny oedd yn cyfri’ am yr holl wahaniaeth rhwng y ddwy wlad.
“Does dim dadl fod angen gwella’n sylweddol ar berfformiad addysg Cymru,” meddai Gareth Rees. “Ond y peryg ar hyn o bryd yw fod dehonglaidau simplistig o PISA a meini prawf allanol eraill yn lladd trafodaeth, yn hytrach nag agor ffyrdd newydd o ddatblygu addysg.”
Fe fydd yr Athro Rees yn cymryd rhan mewn cynhadledd sy’n cael ei threfnu gan y Sefydliad ar 21 Chwefror i drafod y pwnc.