Meryl Gravell
Mae arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Meryl Gravell, yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder heddiw.
Grŵp Plaid Cymru sydd yn cyflwyno’r cynnig yn dilyn honiadau ei bod wedi beio staff y Cyngor am holl broblemau’r sir ac wedi sarhau protestwyr sy’n ymgyrchu i ddiogelu gwasanaethau yn Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli.
Fe ymddangosodd fideo o’r Cynghorydd Meryl Gravell yn awgrymu nad oedd aelodau’r Cyngor yn gweithio mor galed ag y dylen nhw.
‘Cyhuddiad difrifol iawn’
Wrth annerch cynulleidfa, ym mhresenoldeb Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, yng Nghanolfan ‘Chooselife’ yn Llanelli ar 12 Ionawr eleni, dywedodd Meryl Gravell fod gan staff y cyngor lawer i’w ddysgu gan reolwr y Ganolfan, Alan Andrews.
“Petai’r naw mil o weithwyr sydd ganddon ni yn gweithio mor galed ag Alan, mor frwdfrydig ag Alan… byddai dim un problem yn y Cyngor. Ond dyna ni, r’yn ni pwy y’n ni,” meddai.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Caerfyrddin, Peter Hughes Griffiths, bod y cyhuddiad yn un “difrifol iawn” a bod “beio naw mil o weithwyr y Cyngor Sir am broblemau’r Cyngor… yn osodiad atgas ac yn dangos anfri annerbyniol tuag at y staff ac aelodau Cyngor Sir Caerfyrddin.”
‘Ennill pwyntiau gwleidyddol’
Ond mae Meryl Gravell wedi cyhuddo’r cynghorydd o geisio “ennill pwyntiau gwleidyddol” trwy dynnu sylw at y digwyddiad.
Cyfaddefodd, fodd bynnag, bod ei geiriau wedi eu “dewis yn annoeth, ond doedd dim bwriad beirniadu staff y cyngor mewn unrhyw ffordd, dim ond amddiffyn Alan a staff Chooselife sydd wedi cael amser mor galed.”
Dywedodd hefyd ei bod wedi “ymddiheuro’n gyhoeddus ac yn uniongyrchol i staff am unrhyw gamddealltwriaeth.”
Mae Meryl Gravell wedi bod yn arweinydd Cyngor ers 13 mlynedd bellach, ond gyda mwyafrif o 30 aelod, o Gyngor o 73, yn perthyn i Blaid Cymru, ac adroddiadau bod rhai cynghorwyr annibynnol yn bwriadu cefnogi’r bledlais, gallai dyfodol Meryl Gravell yn y Cyngor Sir fod yn y fantol.