Arlywydd yr Ariannin
Mae’r Ariannin ar fin gwneud cwyn swyddogol i’r Cenhedloedd Unedig tros benderfyniad Prydain i anfon llong ryfel i ynysoedd y Malfinas, neu’r Falklands.
Fe gyhoeddodd arlywydd y wlad, Cristina Fernandez de Kirchner, fod yr Ysgrifennydd Tramor yno’n cyflwyno cwyn swyddogol i Gyngor Diogelwch y corff rhyngwladol.
Mae’r Ariannin yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o ‘filiatreiddio’ yr ynysoedd, a hynny wrth nesu at 30ain mlwyddiant y rhyfel yno.
Yn ôl yr Arlywydd, mae penderfyniad Prydain i anfon un o’i llongau rhyfel mwya’ modern i Dde’r Iwerydd yn “peryglu diogelwch rhyngwladol”.
Maen nhw hefyd yn flin am fod Dug Caeredin, y Tywysog William, wedi cael ei anfon yno ar gyfer dyletswyddau milwrol.
Y cefndir
Ym mis Ebrill 1982 y cipiodd yr Ariannin yr ynysoedd gan ddechrau’r rhyfel a arweiniodd at 74 diwrnod o ymladd a 907 o farwolaethau, gyda 33 o’r rheiny o blith y Gwarchodlu Cymreig.
Roedd Prydain wedi meddiannu Ynysoedd y Malfinas yn 1833.