Mae prif weithredwr a chyfarwyddwyr eraill Network Rail wedi penderfynu i beidio a derbyn taliadau bonws – yn hytrach, fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella diogelwch ar y rheilffyrdd.

Roedden nhw wedi bod dan bwysau cynyddol i beidio â derbyn unrhyw arian ychwaneol eleni yn sgil y ffrae sydd wedi codi am daliadau bonws yn y diwydiant bancio.

Roedd y mater i gael ei drafod gan Network Rail ddydd Gwener. Mae’r bwrdd bellach wedi awgrymu y dylid gohirio’r cyfarfod.

Dywedodd y Prif Weithredwr Syr David Higgins, sy’n derbyn cyflog o £560,000 y flwyddyn, ei fod ef a’r cyfarwyddwyr wedi penderfynu peidio â derbyn y taliadau bonws wythnos diwethaf a’u bod yn bwriadu cadw at yr addewid hwnnw.

Roedd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Justine Greening wedi cyhoeddi y byddai’n mynychu’r cyfarfod ac yn pleidleisio yn erbyn y taliadau bonws.

Mae hi wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw.