Naz Malik
Mae Cadeirydd yr elusen lleiafrifoedd ethnig, AWEMA, sy’n rhan o ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru a’r heddlu ar hyn o bryd, wedi cyhuddo pobol o ddefnyddio’r sefydliad fel cocyn hitio heddiw.

Yn ôl Rita Austin, Cadeirydd AWEMA  mae’r wasg a’r cyfryngau wedi ymhyfyrdu yn y cyfle i ymosod ar y sefydliad, fel modd o feirniadu gweithgareddau Llywodraeth Cymru.

“Mae hi wedi dod yn gynyddol amlwg yn ystod y dyddiau diwethaf mai AWEMA yw’r ffon sy’n cael ei defnyddio i guro Llywodraeth Cymru,” meddai Rita Austin ar wefan yr elusen.

Yn ôl y Cadeirydd, mae’r “ymgyrch ar y cyd gan sefydliadau grymus i ddarlunio AWEMA fel sefydliad llwgwr” wedi llwyddo i “israddio a thanseilio cyfraniad pobol ddu a phobol o leiafrifoedd ethnig, yn aml ar sail tystiolaeth bach iawn.”

Ymchwiliad

Mae AWEMA eisoes yn wynebu ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd yn cael ei arolygu gan Heddlu’r De, yn sgil honiadau bod nepotisitiaeth a llygredd yn rhemp yn y sefydliad.

Mae Prif Weithredwr AWEMA, eisoes wedi cyfaddef iddo ddefnyddio arian y Gymdeithas i dalu dyled ar ei gerdyn credyd gwerth £9,000, ond mae’n dweud ei fod yn ystyried yr arian yn daliad rhag blaen am gostau yn y dyfodol.

Mae Naz Malik hefyd yn wynebu honiadau o ddefnyddio arian y gymdeithas yn amhriodol i roi codiad cyflog i’w hun a rhoi swydd i’w ferch, Tegwen, heb y tryloywder priodol.

‘Euogrwydd’

Ond heddiw dywedodd Cadeirydd AWEMA, Rita Austin, ei bod hi’n ymddangos fod yr awdurdodau eisoes wedi gwneud eu penderfyniad ynglyn ag euogrwydd y sefydliad.

“Mae fel petai’r rhai mawr, y rhai da, a’r rhai grymus eisoes wedi rhuthro i gyrraedd eu penderfyniad, a gwneud eu penderfyniad ynglŷn â’r hyn ddylai ddigwydd i AWEMA – ymhell cyn i arolwg mewnol Llywodraeth Cymru, yr y’n ni wedi bod yn cyd-weithio’n llawn â nhw, gael ei gyflwyno.

“Dyma sydd o hyd yn digwydd,” meddai.

Mae’r honiadau wedi dod i’r fei yn sgil adroddiad sy’n awgrymu bod nepotistiaeth a llygredd yn rhemp yn y sefydliad, sy’n gyfrifol am brosiectau gwerth dros £8 miliwn yng Nghymru.

Yr wythnos diwethaf fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod yr heddlu bellach yn cadw golwg ar yr ymchwiliad i’r sefydliad, a’u bod wedi atal grantiau gwerth £3 miliwn rhag mynd i goffrau AWEMA tra bod yr ymchwiliad yn parhau.