Mae ditectifs o Scotland Yard bellach yn holi pedwar newyddiadurwr yn sgil ymchwiliad Elvenden gan Heddlu’r Metropolitan i honniadau bod newyddiadurwyr wedi talu plismyn am wybodaeth.

Cafodd pedwar o’r dynion, sydd rhwng 29 a 46 oed, eu harestio yn eu cartefi ac wrth eu gwaith yn Llundain ac Essex y bore yma. Aeth y pumed i swyddfa’r heddlu o’i wirfodd.

Mae’r dyn 29 oed yn blismon ac yn gweithio i Uned Plismona Tiriogaethol Heddlu’r Metropolitan. Cafodd ei arestio mewn swyddfa’r heddlu yng nghanol Llundain tra ar ddyletswydd, ar amheuaeth o lygredigaeth o dan amodau Deddf Atal Llygredigaeth 1906, camymddwyn mewn swydd gyhoeddus a chynllwynio yng nghyd-destun y ddau drosedd.

Ef yw’r ail blismon i gael ei arestio dan Weithrediad Elvenden wedi i blismones 52 oed gael ei harestio a’i rhyddhau ar fechniaeth y mis diwethaf.

Mae’r pedwar arall yn cael eu holi ar amheuaeth o lygredigaeth, cynorthwyo ag annog camymddwyn mewn swydd gyhoeddus a chynllwynio yng nghyd- destun y troseddau.

Digwyddodd yr arestio yn dilyn trosglwyddo gwybodaeth gan News Corporation i’r heddlu ac mae plismyn wrthi ar hyn o bryd yn archwilio swyddfeydd News International yn Wapping a chartrefi’r newyddiadurwyr.

Deellir mai Chris Pharo, pennaeth newyddion y Sun, Mike Sullivan, y golygydd trosedd, Graham Dudman, cyn olygydd-reolwr y papur a Fergus Shanahan cyn olygydd y papur yw’r newyddiadurwyr sydd wedi cael eu harestio.

Mae News Corporation wedi cyhoeddi datganiad sy’n dweud eu bod wedi ymrwymo’r haf diwethaf i beidio ail adrodd arferion annerbyniol o gasglu newyddion gan rai unigolion.

Yn ôl y datganiad “mae News Corporation wedi comisiynu Pwyllgor Rheolaeth a Safonnau i adolygu holl deitlau News International, waeth beth fyddo’r gost, ac i gyd weithredu yn broactif efo awdurdodau’r gyfraith ac awdurdodau eraill os oes gwybodaeth berthnasol yn cael ei ganfod oddi mewn i’r teitlau yma. Fel rhan o’r adolygiad, sydd yn parhau, fe roddodd MSC wybodaeth i ymchwiliad Elvenden arweiniodd at yr arestio heddiw.”

Mae 14 o bobl wedi cael eu arestio fel rhan o Weithrediad Elvenden erbyn hyn. Mae’r Gweithrediad yn cael ei arolygu gan Gomisiwn Cwynion yr Heddlu ac yn rhedeg ochr yn ochr â Gweithrediad Weeting i hacio ffonau.