Y Frenhines Elizabeth
Mae’r Frenhines wedi rhoi sêl bendith i gyfres o bartïon stryd a fydd yn cael eu cynnal ledled Prydain er mwyn dathlu ei Jiwbilî Diemwnt ym mis Mehefin.

Mae hi wedi ysgrifennu at drefnwyr y Big Lunch gan ddweud ei bod hi “werth ei bodd” y bydd y partion yn cael eu cynnal ar 3 Mehefin.

Bydd y cinio mawr yn ganolbwynt i benwythnos hir a fydd yn cynnwys gŵyl banc ar ddydd Llun a dydd Mawrth y 4ydd a’r 5ed.

Y nod fydd dathlu 60 mlynedd y Frenhines ar yr orsedd.

Gobaith y trefnwyr yw efelychu’r partïon stryd a gynhaliwyd er mwyn dathlu coroni’r Frenhines yn 1953.

Dechreuodd y Big Lunch yn 2009 er mwyn annog cymunedau i ddod at ei gilydd. Y llynedd fe gymerodd bron i ddwy filiwn o bobol ran yn y digwyddiad.

Eleni maen nhw’n annog pobol yn bob un o’r 54 gwlad sy’n rhan o’r Gymanwlad i gymryd rhan yn y dathlu.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’r Frenhines am ei neges gefnogol,” meddai Peter Stewart, trefnydd y Big Lunch.

“Rydw i’n siŵr y bydd pawb sy’n cymryd rhan eisiau ymuno â fi wrth ddiolch iddi am ddymuno’n dda i ni.

“Roedd tua 10 miliwn o bobol wedi cymryd rhan yn nathliad Jiwbilî Arian y Frenhines yn 1977 ac rydyn ni’n gobeithio y bydd nifer fawr yn cymryd rhan yn y Big Lunch yn 2012.”