Raoul Moat
Fe fydd dau ddyn yn y llys heddiw’n wynebu cyhuddiadau ynglŷn ag un o straeon mwyaf dramatig y llynedd.
Maen nhw wedi cael eu cyhuddo o geisio llofruddio plismon a nifer o gyhuddiadau eraill yn ymwneud ag achos y dyn arfog Raoul Moat.
Am wythnos yn ystod yr haf y llynedd, roedd heddlu’n chwilio am y cyn-fownsar ar ôl ymosodiad ar ei gyn-gariad a llofruddiaeth ei chariad newydd hithau.
Yn y diwedd, fe saethodd Raoul Moat ei hun ond fe gafodd dau ddyn arall eu harestio yn sgil y digwyddiadau.
Y cyhuddiadau
Heddiw, fe fydd Karl Ness, 26 oed, o Blyth yn wynebu cyhuddiad o lofruddio Chris Brown, cariad newydd Samantha Stobbart, dau gyhuddiad o gynllwynio llofruddiaeth ac un o geisio llofruddio plismon o’r enw David Rathband a gafodd ei ddallu yn ystod y digwyddiadau.
Fe fydd Qhuram Awan, 23, o Dudley, Glannau Tyne, hefyd yn wynebu cyhuddiad o geisio llofruddio David Rathband ac un cyhuddiad o gynllwynio llofruddiaeth.
Mae’r ddau hefyd yn wynebu un cyhuddiad yr un o fod ag arfau gyda bwriad i’w defnyddio ac o ladrad arfog o siop chips.
Mae’r ddau’n gwadu’r holl gyhuddiadau.