Fe fydd cyfres o streiciau gan weithwyr gyda chwmni Unilver yn dechrau heddiw – mae nhw’n protestio am y ffrae ynglŷn â phensiynau.
Fe fydd miloedd o weithwyr o dair undeb yn gweithredu’n ddiwydiannol dros y 11 diwrnod nesaf mewn protest yn erbyn cynlluniau i newid cynllun pensiwn y cwmni.
Dywed Unilever eu bod nhw wedi cael amser i baratoi ar gyfer y streiciau, ond mae’r undebau’n honni y bydd y gweithredu diwydiannol yn cael effaith ar gynnyrch fel Persil, PG Tips, Marmite, Lynx, Pot Noodle a Flora.