Mae gweithiwr mewn clwb nos sydd wedi cael ei gyhuddo o ladd merch feichiog a’i baban yn y groth yn mynd o flaen ei well heddiw.
Cafodd Nikitta Grender, 19, ei darganfod yn farw, wedi ei thrywanu, mewn fflat wedi ei losgi i’r llawr yng Nghasnewydd fis Chwefror diwethaf.
Fe fydd yr achos yn dechrau yn Llys y Goron Casnewydd heddiw.
Roedd Nikitta Grender o fewn pythefnos i ddyddiad geni’r babi pan gafodd ei threisio a’i llofruddio.
Mae Carl Whant, 27, o Betws ger Casnewydd, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, a dinistrio plentyn, dan y ddeddf Bywyd Plentyn (Gwarchodaeth) 1929.
Mae e hefyd wedi ei gyhuddo o dreisio a llosgi bwriadol.
Mae e’n gwadu bob cyhuddiad.
Roedd Carl Whant wedi bod allan yn yfed gyda ffrindiau, gan gynnwys Ryan Mayes, 18, a’i ail gefnder, ar noson y lofruddiaeth.
Ryan Mayes oedd cariad Mikitta Grender, a thad y baban yr oedden nhw eisoes wedi ei henwi’n Kelsey-May.