Fe fydd y ffigurau diweithdra diweddara yn cael eu cyhoeddi heddiw.
Mae disgwyl i’r ffigurau ddangos cynnydd ers ffigwr mis diwethaf o 2.6 miliwn. Mae ‘na ddyfalu na fydd nifer y di-waith yn gostwng o dan 2.5 miliwn tan 2016 ac y bydd yn codi i 2.9 miliwn y flwyddyn nesaf.
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi rhybuddio y bydd cwmnïau llai yn diswyddo staff yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn, ac mae nhw’n galw ar y Llywodraeth i gyflwyno rhagor o newidiadau i’r gyfraith cyflogaeth.