Mae golygydd y Daily Mirror wedi dweud y “gallai’r” arfer o hacio ffonau fod wedi digwydd ar  y papur.

Dywedodd Richard Wallace, sydd wedi bod yn olygydd ar y papur ers 2004, wrth Ymchwiliad Leveson y gallai’r arfer o wrando ar negeseuon ffôn fod wedi digwydd yn y stafell newyddion ond yn ddiarwybod iddo.

Ond mae’n mynnu ei fod yn hyderus bod newyddiadurwyr yn gweithio i’r papur newydd wedi ymddwyn o fewn y côd ymarfer.

Dywedodd ei fod yn bosib bod stori a ymddangosodd yn y Daily Mirror ynglŷn â pherthynas Sven Goran Eriksson gyda Ulrika Jonsson yn 2002 fod wedi cael ei gwneud ar ôl gwrando ar negeseuon ffôn.

Mae Piers Morgan, oedd yn olygydd y papur ar y pryd, eisoes wedi gwadu gwrando ar negeseuon Ulrika Jonsson pan fu’n rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad y llynedd.

Roedd Richard Wallace hefyd wedi cymryd y cyfle i ymddiheuro wrth Chris Jefferies, gafodd ei arestio ar gam ar amheuaeth o lofruddio’r pensaer Jo Yeates ym Mryste.

Roedd Chris Jefferies, cyn landlord Jo Yeates, wedi dweud wrth yr ymchwiliad bod y wasg wedi ei “ddifrïo” yn dilyn ei arestio.  “Jo Suspect is Peeping Tom” oedd un o’r penawdau yn y Daily Mirror.

Dywedodd Richard Wallace ei fod yn ymddiheuro’n daer am y loes a achoswyd i Chris Jefferies a’i deulu.

Fe fydd yr ymchwiliad i safonau’r wasg hefyd yn clywed tystiolaeth gan Trinity Mirror heddiw.

Yn gynharach roedd yr ymchwiliad wedi clywed tystiolaeth gan Tina Weaver, golygydd y Sunday Mirror. Dywedodd nad oedd hi’n ymwybodol bod hacio ffonau yn digwydd yn y Sunday Mirror ond nad oedd unrhyw sicrwydd nad oedd wedi digwydd.