Ffion Hague
Y llenor a’r wraig busnes, Kate Roberts fydd yn hawlio sylw Ffion Hague yn y bennod nesaf o’r gyfres hanes Mamwlad sy’n edrych ar gyfraniad merched dylanwadol ac arloesol.

Mae hanes Kate Roberts fel llenor yn gyfarwydd iawn, a bu ei hanes yn bwnc trafod yn dilyn cyhoeddi cyfrol Alan Llwyd Kate: Y Cofiant ym mis Tachwedd 2011. Mae’r cofianydd yn credu fod Kate yn ddeurywiol.

Ond, nid ei bywyd personol nac ei gwaith llenyddol fydd yn cael sylw ar Mamwlad, ond ei gwaith fel merch busnes.

“Nid ei gwaith llenyddol oedd y rheswm dros ddewis Kate, ond ei gwaith fel un o brif argraffwyr Cymru,” meddai  Ffion Hague wrth esbonio pam y dewiswyd Kate Roberts ymhlith y saith menyw sy’n cael sylw yn y gyfres.

“Am flynyddoedd lawer, Kate a’i gŵr Morris Williams oedd yn rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych ac fe gariodd hi’r baich ar ei phen ei hun wedi ei farwolaeth. Mae’n stori ryfeddol o emosiynol a gafaelgar,” meddai.

‘Y ferch gyntaf’

Kate oedd y ferch gyntaf i redeg un o brif weisg Cymru, ac fe wnaeth hynny ar ei phen ei hun am ddegawd gan osod sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol. Ond, doedd hi ddim yn dasg hawdd.

“Roedd Kate wedi addo i Morris y bydde hi’n parhau â’r wasg yn dilyn ei farwolaeth yn 1946, ac er i bobl geisio ei pherswadio nad oedd hi yn wraig fusnes, fe gadwodd hi at ei gair,” meddai cynhyrchydd y rhaglen, Llinos Wynne.

“Dwi’n credu fod y stori yma am Kate yn eithaf anghyfarwydd a bod pobl ddim wir yn ymwybodol faint o ymdrech y buodd hyn iddi.”

Yn y gyfres, bydd Ffion Hague yn edrych ar stori’r ymgyrchydd iaith o Oes Fictoria, Arglwyddes Llanover; y ferch gyntaf i ennill y brif wobr am farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Cranogwen; a menyw fusnes mwyaf llwyddiannus Cymru, Laura Ashley.

Fe fydd y bennod nesaf yn cael ei darlledu ar S4C nos Sul nesaf.