Bydd portread newydd o Saunders Lewis yn cael ei ddadorchuddio mewn canolfan iaith yn Ninbych yng Nghlwyd fis nesaf.
Bydd yr achlysur yn digwydd yng nghanolfan Popeth Cymraeg ar Chwefror 11 – bron union hanner can mlynedd ers i’r ysgolhaig enwog draddodi ei ddarlith radio ysgytwol, ‘Tynged yr Iaith’, ar Chwefror 13, 1962.
Roy Guy – artist o Gasnewydd sy’n gwneud portreadau o fawrion y genedl – sydd wedi gwneud y portread ac wedi’i gyfrannu i’r ganolfan am ddim.
“Fuasai Cymru yn hollol wahanol rŵan oni bai am fodolaeth radio a’r ddarlith radio honno,” meddai rheolwr y ganolfan, Ioan Talfryn.
Mae Roy Guy wedi rhoi portread arall o Saunders Lewis i’r dref o’r blaen – mae’r darlun yn hongian wrth ochr portread o’r awdur Kate Roberts yn Theatr Twm o’r Nant.
Mwy am y stori yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.