M&S wedi gweld cynnydd mewn gwerthiant
Fe fu’r Nadolig yn gyfnod cymysg i siopau’r stryd fawr gyda rhai yn perfformio’n well na’r disgwyl, ac eraill yn symud yn agosach at y dibyn.
Roedd wythnos “syfrdanol” cyn y Nadolig wedi helpu gwerthiant i gynyddu 2.2%, y cynnydd mwyaf ers mis Ionawr, yn ôl arolwg gan y Consortiwm Manwerthu Prydeinig (BRC) a KPMG.
Roedd Marks and Spencer wedi cyhoeddi heddiw bod na gynnydd o 3% yn eu gwerthiant bwyd dros y Nadolig ond bod gwerthiant dillad a nwyddau i’r cartref wedi gostwng 1.8%.
Roedd Debenhams hefyd wedi gweld cynnydd mewn gwerthiant yn yr wythnos cyn y Nadolig.
Ond roedd cwmnïau fel La Senza, sy’n gwerthu dillad isaf, a Blacks Leisure wedi cael eu prynu ar ôl mynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn dilyn wythnosau o werthiant gwael. Ac mae cwmni gemau fideo Game hefyd wedi rhybuddio bod eu gwerthiant wedi gostwng yn sylweddol.
Roedd na bryderon y byddai siopau’r stryd fawr yn cael un o’r cyfnodau gwaethaf dros y Nadolig eleni, ond mae perfformiad cwmnïau fel John Lewis wedi bod yn galonogol o’i gymharu â chwmnïau fel HMV.
Yn ôl arolwg y BRC roedd gwerthiant dillad ac esgidiau wedi bod yn “syfrdanol” ar ôl gwerthiant gwael yn yr hydref, tra bod gwerthiant bwyd wedi gweld y cynnydd gorau ers blwyddyn o ganlyniad i gynigion arbennig.
Ond mae gwerthiant eitemau mwy fel dodrefn a setiau teledu yn dal i ddioddef ac mae’n debyg na fydd y ffigyrau calonogol yn lleddfu pryderon am ddyfodol y sector.