Angela Merkel
Mae arweinwyr rhai o wledydd Ewrop wedi rhybyddio y bydd eleni yn flwyddyn economaidd anodd iawn ac mae arolwg barn gan y BBC yn dangos bod economegwyr blaenllaw ar y cyfandir ac ym Mhrydain yn credu y bydd yna ddirwasgiad arall yn ystod chwe mis cynta’r flwyddyn.

Mewn annerchiad ar y teledu yn yr Almaen, dywedodd y Canghellor Angela Merkel bod Ewrop yn “wynebu ei brawf llymaf ers degawdau” ond roedd hefyd yn ffyddiog bod gwledydd Ewrop yn closio oherwydd yr argyfwng economaidd.

Dywedodd yr Arlywydd Sarkozy yn Ffrainc nad yw’r argyfwng ar ben o bell ffordd ac fe alwodd Arlywydd yr Eidal am ragor o aberthu er mwyn i’r sefyllfa wella.

Yn y cyfamser dengys arolwg barn gan y BBC bod llawer o economegwyr yn credu y bydd yna ddirwsagiad arall yn Ewrop eleni gyda’r mwyafrif yn credu y bydd parth yr ewro yn chwalu.

Roedd y BBC wedi holi 34 o o economegwyr yn y DU ac Ewrop gyda 27 yn ateb. O’r rhain roedd 25 yn proffwydo y bydd yna ddirwasgaid arall.

Yn ei neges ar gyfer y flwyddyn newydd dywedodd John Cridland o’r CBI bod argyfwng yr ewro yn creu peryg mawr i economi Prydain gan fod 40% o allforion y DU yn cael eu gwerthu yno.

Ychwanegodd bod taer angen ail drefnu economi Prydain er mwyn lleihau effaith dyledion personol a dyledion y llywodraeth.