Shane Williams
Dau charaewr rygbi rhyngwladol sef Shane Williams ac Ian Evans oedd y gwesteion arbennig fu’n rhedeg efo dros 1,000 o redwyr yn ras Nos Galan Guto Nyth Bran yn Aberpennar neithiwr.

Mae’n draddodiad bod person enwog o fyd chwaraeon yn rhedeg y ras bob blwyddyn ond fydd neb yn cael gwybod pwy ydi o neu hi tan i’r ras gychwyn. Yn y gorffennnol  mae Iwan Thomas a Linford Christie wedi rhedeg ac roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi addo y byddai dau redwr enwog eleni.

Cafodd y Rasus Nos Galan eu cynnal am y tro cyntaf yn 1958 i goffau bywyd Guto Nyth Bran oedd yn redwr enwog yn yr ardal yn ystod y 18fed ganrif. Erbyn heddiw mae tua mil o redwyr yn rhedeg 5 cilomedr o amgylch y dref bob blwyddyn a thua 10,000 o bobl yn gwylio’r cyfan.

Cafodd geiriau’r emyn Calon Lân eu cyhoeddi yn y rhaglen eleni ar ôl i blant ysgol gynradd leol ddarganfod bod yr emyn wedi ei chyfansoddi gan Daniel James pan oedd yn byw yn Aberpennar, ac yng Nghapel Bethania’r dref y cafodd ei chanu gyntaf yn 1910.