Miller - Sgoriwr Caerdydd
Nottingham Forest 0-1 Caerdydd

 

Roedd gôl Kenny Miller toc cyn yr awr yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd yn erbyn Nottingham Forest yn y city Ground heddiw.

Cafodd yr Albanwr gyfle i roi’r ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond arbedodd gôl-geidwad Forest, Lee Camp, yn dda.

Ond allai Camp wneud dim byd i atal peniad Miller i gornel uchaf y rhwyd wedi 59 munud yn dilyn croesiad Peter Wittingham.

Mae Caerdydd yn aros yn bedwerydd er gwaethaf y fuddugoliaeth ond maent yn ennill tir ar West Ham yn y trydydd safle wedi iddynt golli oddi cartref yn Derby heddiw.