Sinclair - Sgoriwr yr Elyrch
Abertawe 1-1 Tottenham
Gorffennodd Abertawe flwyddyn wych ar nodyn uchel heddiw gyda gêm gyfartal yn erbyn Tottenham yn Stadiwm Liberty. Sicrhaodd gôl hwyr Scott Sinclair bwynt i’r Elyrch yn erbyn y tîm sy’n drydydd yn yr Uwch Gynghrair.
Rhoddodd Rafael van der Vaart yr ymwelwyr ar y blaen funud cyn yr egwyl gyda foli daclus yn dilyn gwaith da a chroesiad Benoit Assou-Ekotto ar yr asgell chwith.
Ond yn ôl y death Abertawe yn yr ail hanner a gwelodd Sinclair un ergyd yn cael ei chlirio oddi ar y llinell cyn ei gôl hwyr.
Daeth honno gyda chwe munud yn weddill yn dilyn camgymeriad gan Brad Fridel yn y gôl i Spurs. Methodd yr Americanwr a dal croesiad Angel Rangel ac roedd Sinclair wrth law i roi’r bêl i rwyd wag.
Nid yw’r canlyniad yn newid llawer ar y tabl gan i nifer o’r timau yn yr hanner isaf gael gemau cyfartal heddiw hefyd. Aros yn y pedwerydd safle ar ddeg mae Abertawe.