Cwm Cynon
Mae trefnwyr rasus Nos Galan yn Aberpennar yn gobeithio y bydd miloedd yn heidio yno heno i fwynhau’r achlysur a chanu yr emyn ‘Calon Lân’ gyfansoddwyd yn y dref gan droi’r emyn yn anthem ar gyfer y digwyddiad blynyddol.

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Cae Garw wedi bod yn ymchwilio i hanes yr emyn a nhw fydd yn codi’r canu ar ôl canfod mai yn y dref y cafodd yr emyn ei chyfansoddi.

Cafodd y Rasus Nos Galan eu cynnal am y tro cyntaf yn 1958 i goffau bywyd Guto Nyth Bran oedd yn redwr enwog yn yr ardal yn ystod y 18fed ganrif. Erbyn heddiw mae tua mil o redwyr yn rhedeg 5 cilomedr o amgylch y dref a thua 10,000 o bobl yn gwylio’r cyfan.

Mae’n draddodiad hefyd bod person enwog o fyd chwaraeon yn rhedeg y ras bob blwyddyn ond fydd neb yn gwybod pwy ydi o neu hi tan i’r ras gychwyn. Yn y gorffennnol  mae Iwan Thomas a Linford Christie wedi rhedeg ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi addo y bydd nid un ond dau redwr enwog eleni.

Daw’r dathliadau i ben efo gwasanaeth yn Eglwys Llanwynno ble mae Guto wedi cael ei gladdu.

Yn y cyfamser mae hi eisoes yn flwyddyn newydd yn rhai rhannau o’r byd a’r dathliadau wedi hen gychwyn. Samoa a Tokelau oedd y llefydd cyntaf i groesawu 2012 eleni gan bod y trigolion yno wedi penderfynu symud yr ochr arall i’r llinell dyddiad rhyngwladol. Golyga hyn eu bod wedi colli 30 Rhagfyr yn gyfangwbl am eleni.

Mae trigolion yr ynysoedd yn credu bod rhannu yr un dyddiad â Awstralia a Seland Newydd yn mynd i fod o fudd iddyn nhw yn economaidd.