Nigel Davies - Hyfforddwr Hapus
Dreigiau 6–10 Scarlets
Collodd y Dreigiau ar Rodney Parade yn erbyn ail dîm y Scarlets i bob pwrpas yn y RaboDirect Pro12 heno. Gwnaeth Nigel Davies 14 newid i’r tîm a gurodd y Gweilch ar ddydd gŵyl San Steffan ac er i ambell un gwestiynu hynny cyn y gêm talodd y penderfyniad ar ei ganfed wrth i’r ymwelwyr ennill mewn gêm flêr llawn camgymeriadau.
Hanner Cyntaf
Methodd Jason Tovey a Dan Newton gyda chiciau at y pyst mewn chwarter awr agoriadol hynod fratiog.
Yna, agorodd Johnathan Edwards y sgorio gyda chais gwych i’r Scarlets. Dwynodd yr ymwelwyr y bêl oddi ar y Dreigiau yng nghanol y cae a chafwyd dwylo da gan y ddau brop, Ken Owens a Sione Timani, i ryddhau’r olwyr. Yna, cyd chware slic i lawr yr asgell chwith ac Edwards yn y lle iawn i orffen y symudiad. Ychwanegodd Newton y trosiad i roi saith pwynt o fantais i Fois y Sosban hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.
Caeodd y Dreigiau’r bwlch i bedwar pwynt wedi 25 munud gyda chic gosb o droed Tovey. Yna, tuag at ddiwedd yr hanner derbyniodd y maswr anaf a thra’r oedd yn derbyn triniaeth methodd y canolwr, Lewis Robling, gyfle cymharol hawdd i ychwanegu tri phwynt arall.
Roedd y meddiant gan y Scarlets pan drodd y cloc yn goch wedi 40 munud a chawsant ddigon o gyfleoedd i ddod â’r hanner i ben. Dipyn o siom felly i’r ymwelwyr oedd colli chwaraewr i’r gell gosb ac ildio tri phwynt cyn y chwiban hanner. Gwelodd Kieran Murphy y cerdyn melyn am drosedd yn ardal y dacl a llwyddodd Tovey gyda’r gic.
Honno oedd gweithred olaf Tovey yn y gêm ond roedd y Dreigiau yn ôl o fewn pwynt, 7-6 ar yr egwyl.
Ail Hanner
Methodd y Dreigiau a chymryd mantais o’u dyn ychwanegol yn neg munud agoriadol yr ail hanner wrth i’r Scarlets chwarae’n ddoeth a chadw’r meddiant yn dda.
Gyda Tovey oddi ar y cae symudodd Robling i chwarae fel maswr gan dderbyn y cyfrifoldebau cicio i gyd. Ac yn anffodus i’r chwaraewr ifanc cafodd hunllef o ail hanner o ran cicio at y pyst. Methodd dair cic arall, dwy o’r rheiny yn rhai cymharol hawdd.
Yna, i rwbio’r halen yn y briw, llwyddodd Aled Thomas, cyn chwaraewr y Dreigiau, gyda chic gosb i’r Scarlets chwe munud cyn diwedd y gêm.
Ac er i’r Dreigiau bwyso yn y munudau olaf y gic honno gan Thomas oedd unig bwyntiau ail hanner llawn camgymeriadau. 10-6 y sgôr terfynol o blaid y Scarlets.
Ymateb
Bu rhaid i’r Scarlets weithio’n galed heno wrth i’r Dreigiau fwynhau digon o feddiant a thir. Does fawr o syndod felly fod hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, yn hapus iawn gyda’r canlyniad.
“Canlyniad enfawr i ni, mae’n le anodd iawn i ddod iddo ac er clod i’r Dreigiau fe chwaraeon nhw’n dda iawn.”
A chanlyniad gwell fyth o bosib o ystyried yr holl newidiadau a wnaeth Davies i’r tîm.
“Roedden ni’n hyderus iawn yn y grŵp yma o chwaraewyr ac roedden nhw wedi eu hysgogi gan rai o’r sylwadau [am y newidiadau] yn gynharach yn yr wythnos.”
Mae’r canlyniad yn codi’r Scarlets i’r pumed safle yn y tabl tra mae’r Dreigiau yn aros yn yr unfed safle ar ddeg.