Gareth Bale
Mae un o bêl-droedwyr gorau’r byd yn dychwelyd i’w famwlad yfory wrth i Abertawe herio Tottenham Hotspur yn Uwch-Gynghrair Lloegr.
Gareth Bale sgoriodd y ddwy gôl i gipio’r triphwynt i Spurs oddi cartref yn Norwich nos Fawrth, ac yn dilyn y gêm honno fe gafodd ei glodfori i’r cymylau gan y pyndits a dywedodd ei reolwr nad oes gan y Cymro unrhyw wendidau.
Ac yn dilyn perfformiad campus diweddara’r asgellwr, fe ddywedodd Harry Redknapp mai dim ond Barcelona, Real Madrid neu Man City fydde’n medru fforddio prynu Bale.
Cymro arall sydd wedi bod yn serennu yng nghanol cae Abertawe yw Joe Allen, ac mae straeon yn y papurau tabloid yn dweud bod Kenny Dalglish yn paratoi cynnig i fynd ag o i Lerpwl.
Mae’r Swans yn wynebu talcen caled yn erbyn tîm Spurs sy’n llawn sêr.
Mi gafodd Abertawe gêm gyfartal 1-1 yn erbyn QPR nos Fawrth, ac mae eu hyfforddwr yn deall yn well na neb maint y dasg yn erbyn y tîm o Lundain sydd ond wedi colli un o’u 16 gêm olaf yn yr Uwch-Gynghrair.
“Mae’n her enfawr i ni,” meddai Brendan Rogers.
“Mae gan Tottenham dîm gwych sy’n chwarae’n dda ac maen nhw’n un o’r goreuon yn Ewrop ar y funud.
“Mae ganddyn nhw ddau chwaraewr sy’n world class sef Luka Modric a Gareth Bale…mae hi am fod yn dasg anodd ond rydan ni’n edrych ymlaen at y gêm.”
Mae amheuaeth a fydd y cefnwr de Angel Rangel yn ffit ar gyfer ymweliad Spurs â’r Liberty.