Nigel Davies
 Mae hyfforddwr y Scarlets Nigel Davies wedi newid ei dîm bron yn llwyr ar gyfer y gêm ddarbi fawr yn erbyn Dreigiau Gwent heno.

Y clo Dominic Day yw’r unig chwaraewr i gadw’i le o blith chwaraewyr y Scarlets wnaeth faeddu’r Gweilch gartre’ ddydd Llun.

Doedd honno ddim yn glasur o bell ffordd, a bydd cefnogwyr yn gobeithio gweld gwell yn y gêm heno sy’n fyw ar BBC 2 Cymru.

“Rydw i wedi dewis y tîm yma’n gwbwl ffyddiog mai dyma’r tîm iawn i fynd i Rodney Parade a sicrhau buddugoliaeth,” meddai Nigel Davies.

“Mae ganddon ni gyfuniad enillgar o brofiad ac awch ac uchelgais chwaraewyr ifanc sydd wedi dangos talent ac ymroddiad yn ein crys yn barod y tymor hwn.”

Carfan y Scarlets: 15 Dan Newton, 14 Viliame Iongi, 13 Adam Warren, 12 Gareth Maule (capten), 11 Andy Fenby, 10 Stephen Jones , 9 Rhodri Williams, 1 Phil John, 2 Ken Owens, 3 Deacon Manu, 4 Sione Timani, 5 Dominic Day, 6 Josh Turnbull, 7 Johnathan Edwards, 8 Kieran Murphy.

Eilyddion: Emyr Phillips, Iestyn Thomas, Peter Edwards, Lou Reed, Richie Pugh, Gareth Davies, Aled Thomas, Daniel Evans.

Y Dreigiau heb danio

Wedi colli pump o gemau’n olynol, ac heb faeddu’r Scarlets yn y saith ornest ola’ rhwng y ddau ranbarth, nid yw pethau’n argoeli’n dda i Ddreigiau Gwent.

Rhaid mynd yn ôl i fis Medi i ganfod y tro ola’ iddyn nhw ennill gartre’ yng nghynghrair Geltaidd PRO12 RaboDirect, pan faeddon nhw Ulster 22-9.

Ond wedi dweud hynny, mae Gŵyr Gwent wedi ennill eu tair gêm olaf yn erbyn y rhanbarthau Cymreig gartre’ ar Rodney Parade.

Mae hyfforddwr y Dreigiau Darren Edwards wedi dewis union yr un tîm a gollodd eu gêm ddiwetha’ yn erbyn Gleision Caerdydd.

Carfan y Dreigiau: Martyn Thomas, Tonderai Chavhanga, Adam Hughes, Lewis Robling, Aled Brew, Jason Tovey; Wayne Evans; Nathan Williams, Lloyd Burns, Nathan Buck, Adam Jones, Rob Sidoli, Danny Lydiate, Gavin Thomas (c), Toby Faletau.

Eilyddion:
Steve Jones, Phil Price, Dan Way, Jevon Groves, Lewis Evans, Joe Bedford, Andy Tuilagi, Will Harries.
es, Lewis Evans, Joe Bedford, Andy Tuilagi, Will Harries.