Fe fydd diweithdra ym Mhrydain yn codi i bron dair miliwn yn 2012 wrth i 120,000 yn rhagor o swyddi gael eu colli o’r sector cyhoeddus.
Dyna sy’n cael ei ddarogan mewn adroddiad newydd gan y Chartered Institute of Personnel and Development (CIPD, sy’n rhagweld cyfanswm y di-waith ar 2.85 miliwn – y lefel uchaf ers 1994.
Ar y llaw arall, mae disgwyl i ddiweithdra hirdymor – y rhai sydd allan o waith am dros flwyddyn – a diweithdra ymysg pobl ifanc aros ychydig o dan filwn o ganlyniad i fesurau penodol gan y Llywodraeth i dargedu’r ddau grŵp.
Meddai Dr John Philpott, prif ymgynghorydd economaidd y CIPD: “Drwy fod diweithdra’n codi o fan cychwyn llawer uwch nag yn ystod dirwasgiad 2008-9, fe fydd y farchnad swyddi ym Mhrydain yn 2012 yn wanach nag ar unrhyw adeg ers dirwasgiad yr 1990au cynnar.”
Yn ôl y ffigurau diweithdra diweddaraf, mae 2.64 miliwn o bobl allan o waith ar hyn o bryd, gyda 1.6 miliwn yn hawlio’r budd-dal ceiswyr gwaith.