Fe fydd sawl pentref gwledig a thref yng Nghymru yn cael cysylltiadau band eang cynt erbyn yr haf, cyhoeddwyd heddiw.

Mae Aberystwyth, Aberteifi, Dinbych, Aberhonddu a Rhuthun ymysg y trefi a fydd ar eu hennill o ganlyniad i’r cynllun gan gwmni BT.

Dywedodd y cwmni y bydd y band eang cyflym 10 Mbps yn cyrraedd 33 o gymunedau a 130,000 o gartrefi erbyn haf 2012.

Cyhoeddodd y rheolydd Ofcom fap yn yr haf oedd yn dangos bod darpariaeth band eang Cymru ymysg y gwaethaf ym Mhrydain.

Mae gan dros hanner y cartrefi yng Nghymru eisoes fynediad i fand eang 20 Mpbs a’r gobaith yw y bydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn ar draws tri chwarter y wlad erbyn yr haf.

Mae BT yn bwriadu gwario £2.5 biliwn ar fand eang hyd yn oed yn gyflymach, rhwng 40 a 100 Mbps erbyn diwedd 2014.

Fe fydd yn cyrraedd 170,000 o gartrefi yng Nghymru, gan gynnwys rhannau o Wrecsam, Casnewydd, Caerdydd, ac Abertawe.

Y cymunedau fydd yn cael band-eang cyflym

Abercynon

Aberdaugleddau

Aberpennar

Aberteifi

Aberystwyth

Aberhonddu

Amlwch

Blaenafon

Cydweli

Dinbych

Gilwern

Glantawe

Glynrhedynog

Gresffordd

Hen Golwyn

Llandeilo Ferwallt

Llandrillo-yn-Rhos

Llandrindod

Llandybie

Llanfair ym Muallt

Llanidloes

Porth Tywyn

Porthaethwy

Rhuthun

Saundersfoot

Talywain

Trefynwy

Tregŵyr

Treorci

Tywyn

Y Bont-faen

Y Drenewydd

Y Fali