Gwasanaeth yng Nghadeirlan Westminster (o'u gwefan)
Mae arweinydd Pabyddion Cymru a Lloegr wedi tynnu sylw at 50 o deuluoedd Palestinaidd sy’n wynebu colli eu cartrefi ym Methlehem o dan law llywodraeth Israel.

Yn ôl yr Archesgob Vincent Nichols, maen nhw’n dechrau brwydr gyfreithiol i gadw eu tiroedd wrth i’r ‘wal wahanu’ gael ei hadeiladu i gadw’r Iddewon a’r Palestiniaid ar wahân.

Yn ei neges adeg offeren y Nadolig ym Nghadeirlan Westminster yn Llundain, fe ddywedodd yr Archesgob fod pobol yn gweddïo dros y teuluoedd.

“R’yn ni’n byw mewn gwlad o gysgod dwfn ac mae’r cysgod hwnnw heno’n syrthio’n drwm ar Fethlehem,” meddai.

Fe fydd Archesgob Caergaint, y Cymro Rowan Williams, yn canolbwyntio eto ar y terfysgoedd yn Lloegr ynghynt eleni.

Fe fydd yn sôn am “gysylltiadau wedi’u torri” ac “ymddiriedaeth wedi’i gam-drin.”