Mae gyrrwr wedi taro 15 o ddefaid yn fwriadol, gan ladd nifer ac anafu’r lleill yn ddifrifol.

Yn ôl Heddlu Caint daethpwyd o hyd i’r defaid yn dilyn yr ymosodiad mewn cae yn Wrotham, Gorllewin Caint, toc wedi 9am bore ma.

Roedd y rheini nad oedd wedi eu lladd mewn poen difrifol, â choesau ar goll neu wedi eu torri, a bu’n rhaid eu dinistrio nhw, meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Roedd giât y cae ar agor ac olion teiars ar lawr.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n credu mai Land Rover Discovery oedd wedi taro’r defaid.

“Roedd hwn yn drosedd erchyll sydd wedi achosi dioddefaint mawr i’r defaid. Mae’n anodd credu pwy allai fod wedi gwneud rhywbeth mor erchyll,” meddai’r Arolygydd Adrian Allen.

“Rydyn ni’n awyddus i ddarganfod pwy oedd yn gyfrifol cyn gynted a bo modd.”