Y Cor gyda Gareth Malone a Chris Evans
Bydd hi’n ras hyd y diwedd am rif un yn siart senglau cerddoriaeth y Nadolig eleni, wrth i sêr diweddaraf y byd pop herio grŵp ychydig llai cyfarwydd.
Enillwyr The X Factor eleni, Little Mix, gipiodd y brif safle prynhawn ddoe, gyda’u fersiwn nhw o Cannonball gan Damien Rice – ond mae’r bwcis yn rhagweld newid ar y brig yn siart y Nadolig, ddydd Sul nesaf.
Mae’r bwcis nawr yn credu mai côr newydd o wragedd milwrol fydd yn mynd â’r brif safle ddydd Sul nesaf, gyda’u sengl Nadolig eu hunain – Wherever You Are.
Mae’r sengl wedi ei ysbrydoli gan lythyron y mae’r gwragedd wedi eu derbyn gan eu gwyr tra’n gwneud gwaith milwrol ymhell o adref, ac fe fydd yr elw o’r sengl yn mynd tuag at elusennau’r lluoedd.
Mae’r bwcis William Hill wedi rhoi sengl y gwragedd ar 1/5 i fynd i’r brig ddydd Sul, tra bod Little Mix ar ei hôl hi ar 9/2.
Cafodd y côr ei ffurfio gan raglen ar BBC 2, dan arweiniad Gareth Malone, ac maen nhw wedi denu cefnogaeth nifer o enwau adnabyddus, fel Chris Evans. Mae’r côr eisoes wedi perfformio yng Nghyngerdd Goffa y Royal Albert Hall ac yn rownd cyn-derfynol Strictly Come Dancing.
Ond yn ôl un o brif leiswyr y côr, Sam Stevenson, fe fyddai cyrraedd rhif 1 yn “eisin ar y gacen” i’r côr o fenywod.
Fe fydd siart senglau’r Nadolig yn cael ei ddatgelu ddydd Sul nesaf, ar Ddydd Nadolig, ar raglen arbennig o Top of the Pops ar BBC1.