Sian Gwynedd
Bydd Radio Cymru yn newid y gerddoriaeth fydd yn cael ei chwarae heddiw  i geisio “parchu dymuniadau’r cerddorion,” meddai’r BBC heddiw.

Mae dros 500 o gerddorion o Gymru yn mynd ar streic dros y tridiau nesaf ar ôl i Gynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru gyhoeddi nad yw trafodaethau rhyngddyn nhw a’r BBC yn ystod yr wythnos diwethaf, wedi llwyddo i arwain at ohirio’r streic.

Maen nhw’n streicio yn erbyn y “taliadau pitw” y maen nhw’n eu cael gan y BBC am chwarae eu cerddoriaeth ar Radio Cymru.

Ond mae’r BBC wedi datgan na ellir cynnal hyn am dridiau ac y bydden nhw’n chwarae cerddoriaeth Gymraeg “fel arfer fory a dydd Mercher” er mwyn “amddiffyn buddiannau ei gwrandawyr”.

Fe ddywedodd y BBC nad “streic swyddogol yw hon ac mae’r gerddoriaeth wedi ei drwyddedu i’r BBC drwy’r PRS, felly “yn gyfreithiol nid oes rhwystr i Radio Cymru rhag chwarae’r gerddoriaeth.”

Ymateb BBC…

Yn ôl y BBC, er gwaetha pob ymdrech gan y BBC i gynnig proses ac amserlen bendant i ddatrys yr anghydfod ynglŷn â thaliadau’r PRS i gerddorion – mae Cynghrair y Cerddorion wedi hysbysu Radio Cymru y byddant yn parhau i gynnal protest am 3 diwrnod (19-21 o Ragfyr).

“Y  PRS sy’n gosod lefelau’r taliadau breindal.  Ond mae BBC Cymru a’r BBC yn ganolog wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio datrys yr anghydfod,” meddai llefarydd ar ran y BBC wrth Golwg360.

Mae’r gorfforaeth yn dweud ei bod wedi llwyddo i roi “proses ac amserlen bendant mewn lle er mwyn ceisio trafod a datrys y ddadl yma cyn diwedd Chwefror.”

“Mae hyn yn cynnwys trefnu cyfarfod ddechrau Ionawr gydag uwch swyddogion o’r cyrff perthnasol  – gan gynnwys uwch-swyddogion y PRS –  gyda’r bwriad o gytuno ar gamau i ddatrys y broblem. Dyma’r tro cyntaf y byddai cyfarfod o’r fath wedi cael ei drefnu ers i’r cerddorion ddechrau eu hymgyrch.

“Ond er mawr siom i ni ac ar ôl dyddiau lawer o drafod, a chynnig oedd yn cyflawni mwyafrif helaeth gofynion y cerddorion,  mae llefarydd ar ran y gynghrair wedi dweud na fyddant yn dod i’r cyfarfod a bod eu protest yn parhau,” meddai llefarydd ar ran y BBC.

Yn ôl y BBC, maen nhw wedi bod yn “gwbl ymroddedig i geisio datrys yr anghydfod a chwilio am atebion.”

“…Mae Radio Cymru yn gwbl ddibynnol ar gerddorion Cymraeg er mwyn gallu cynnal darpariaeth ddyddiol yr orsaf, felly mae’r brotest hon yn rhoi’r orsaf mewn sefyllfa hynod anodd a dyrys,” meddai’r llefarydd.

Fe ddywedodd Siân Gwynedd, Golygydd Radio Cymru  eu bod fel gorsaf “yn gefnogwyr pybyr i gerddorion Cymraeg ac yn ymhyfrydu yn y bartneriaeth greadigol sydd gennym ni gyda cherddorion yng Nghymru.”

“Mae’r  berthynas glos yma wedi ein galluogi i glywed cerddoriaeth newydd a gwrando ar berfformiadau byw yn rheolaidd ar yr orsaf. Rydym yn siomedig iawn na chafwyd cytundeb y tro yma ond hyderwn na fydd hyn yn amharu ar unrhyw drafodaethau yn y dyfodol,” meddai Siân Gwynedd, Golygydd Radio Cymru.