Bydd dros 500 o gerddorion o Gymru yn mynd ar streic dros y tridiau nesaf ar ôl i Gynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerdd Cymru gyheoddi nad yw trafodaethau rhyngddyn nhw a’r BBC yn ystod yr wythnos diwethaf, wedi llwyddo i arwain at ohirio’r streic.
Maen nhw’n streicio yn erbyn y “taliadau pitw” y maen nhw’n eu cael gan y BBC am chwarae eu cerddoriaeth ar Radio Cymru.
Mae’r BBC wedi dadlau ar hyd yr adeg nad dadl rhwng y Gorfforaeth â’r cerddorion yw hon, ond un rhwng y corff breindaliadau PRS a’u haelodau, sef y cerddorion.
Ymhlith y rhai sy’ am atal yr hawl i Radio Cymru chwarae eu recordiau ar Ragfyr 19, 20 a 21 y mae Gruff Rhys, Sibrydion, Bryn Fôn, Gai Toms a’r Ods.
Mae’r Gynghrair wedi dweud nad ydynt yn teimlo bod y BBC yn ganolog wedi “cydnabod eu cyfrifoldeb yn y broses o rannu breindaliadau yn ddigonol.”
“Mae trafod yr egwyddor mai gwerth economaidd cân Gymraeg ddylai sail dosbarthiadau ‘y funud’ ar Radio Cymru fod, ac nid ’cyrhaeddiad a threuliad’ yn sylfaenol i’r ymgyrch, ac nid yw’r BBC na’r PRS wedi cadarnhau eu bod yn barod i wneud hyn,” meddai llefarydd ar ran y Gynghrair.
Maen nhw eisoes wedi datgan eu bod yn “awyddus iawn” i fynychu cyfarfod ar y cyd gyda’r BBC a PRS. “Ond os nad ydynt yn barod i drafod yr egwyddor uchod, yna, yn ôl profiad o bedair blynedd o drafod gyda’r PRS, does dim gwerth mewn cyfarfod o’r fath, ac ni fyddai’n cyfrannu at gynaladwyedd y diwydiant cerdd Gymreig.”
‘Pwysau’
Mae’r Gynghrair wedi dweud y byddent yn “parhau gyda’r ymgyrch i roi pwysau ar y BBC i dderbyn eu cyfrifoldebau,” ac i roi “pwysau ar PRS i ail edrych ar sail ac anghysonderau eu systemau dosbarthu breindaliadau.”
Maen nhw’n pwysleisio nad ymgyrch yn erbyn Radio Cymru a’i staff yw hyn, ond ymgyrch “yn erbyn y BBC yn ganolog.”
“Mae’r Gynghrair, a’r holl aelodau, boed yn gyfansoddwyr, yn labeli, yn gyhoeddwyr neu’n gerddorion yn gwerthfawrogi’r bartneriaeth glos a llwyddiannus gyda Radio Cymru, ac yn bryderus iawn am ddyfodol y bartneriaeth hon petai Radio Cymru yn anwybyddu dymuniadau’r cerddorion yn ystod dydd Mawrth a dydd Mercher,” meddai’r gynghrair mewn datganiad.
Cefnogaeth
Wrth alw am ddatganoli grymoedd dros ddarlledu i Gymru, mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth i gerddorion Cymru.
“Nid yn unig ein bod am weld grym dros ddarlledu yn dod yma i Gymru ond fod strwythur Cymreig a Chymraeg yn cael ei greu sydd yn blaenoriaethu ac yn gwneud yn fawr o’n cymunedau,” meddai Bethan Williams Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Rydyn ni wrthi’n ceisio cael cefnogaeth trawstoriad o wleidyddion a phobl yn y diwydiant i’n galwadau drwy ofyn iddynt arwyddo ein datganiad. Mae’r ffaith fod Cymru yn cael ei hystyried yn rhanbarth o fewn y diwydiant darlledu yn codi problemau o hyd a byddai datganoli rheolaeth dros ddarlledu i Gymru yn golygu fod Cymru yn cael ei chymryd o ddifrif.”
“…Gan fod y BBC yn talu cerddorion drwy’r PRS (Performing Rights Society), mae cerddorion Cymraeg yn derbyn hyd at 35 gwaith llai o arian na cherddorion Saesneg, mae hynny’n warth. Yn fwy na hynny mae’n ei gwneud yn anodd iawn i wneud bywoliaeth o ganu yn Gymraeg sydd yn golygu bod llai o gerddoriaeth Gymraeg ar gael i wrandawyr.”
Cefnogaeth Plaid
Yn y cyfamser mae Plaid Cymru wedi cefnogi galwadau am daliadau mwy teg i gerddorion Cymru.
Mae Hywel Williams AS wedi galw ar Gymdeithas Hawliau Perfformio y PRS i ail-ystyried y penderfyniad i israddio Radio Cymru ac yn sgil hynny cynnig taliadau is i artistiaid cyfrwng Cymraeg sy’n cael eu chwarae ar yr orsaf.
Yn ôl Hywel Williams, mae’r newidiadau i fformiwla taliadau’r PRS, a gyflwynwyd yn 2008, wedi cael “effaith negyddol ar gerddorion Cymreig.”
‘Dim cydanbyddiaeth i brif ffynhonnell cerddoriaeth Cymraeg’
“Mae Radio Cymru yn orsaf genedlaethol,” meddai Hywel Williams. “Yr orsaf yw prif allbwn cerddorion cyfrwng Cymraeg ond nid yw fformiwla’r PRS yn cydnabod hyn.
“Mae cerddoriaeth cyfrwng Cymraeg yn anhebygol o gael ei chwarae ar unrhyw orsaf sy’n gwasanaethu’r DU gyfan ac felly mae’r rheolau hyn yn dangos rhagrith yn erbyn y rheiny sy’n creu eu gwaith yn y Gymraeg,” meddai.
Yn ôl Hywel Williams, mae fformiwla taliadau’r PRS yn methu â chydnabod pwysigrwydd cael llwyfan i gerddoriaeth Cymraeg.
“Nid yw’r taliadau a gynigir yn adlewyrchu cyfraniad ieithyddol a diwylliannol y cerddorion ac mae hyn yn peri bygythiad i fywoliaethau.
“Mae gan Gymru sîn gerddorol fywiog, ond er mwyn ei chynnal, rhaid i’r PRS gynnig taliadau realistig sy’n adlewyrchu gwaith yr artistiaid.”