Vaclav Havel (Martin Kozak)
Fe fu farw Vaclav Havel, y gŵr a arweiniodd hen wlad Tsiecolsofacia wrth iddi ennill ei rhyddid oddi wrth yr Undeb Sofietaidd.
Roedd wedi dod yn enwog i ddechrau fel dramodydd ond ef oedd y dewis unfrydol i fod yn ddegfed arlywydd y wlad ar ôl ‘Chwyldro Melfed’ 1989.
Ar ôl i’r wlad gael ei rhannu’n ddwy yn 1992, fe ddaeth hefyd yn Arlywydd cyntaf y Weriniaeth Tsiec.
Roedd Vaclav Havel wedi dod yn wrthwynebydd amlwg i’r drefn Sofietaidd adeg y Gwanwyn Tsiec ym Mhrâg yn 1968.
Fe gafodd ei garcharu sawl tro, gan gynnwys un cyfnod o bron bum mlynedd cyn cymryd rhan amlwg yn chwalfa’r Llen Haearn yn 1989.
Ei gynorthwy-ydd a gyhoeddodd ei fod wedi marw’r bore yma yn 75 oed.